Wednesday 24 October 2018

Cadwraeth yng Nghymru Rhagfyr 2018: Mwy na gwrthrych – gwarchod ein treftadaeth anniriaethol.

Galwad am bapurau a nodyn i’r dyddiadur:
Dydd Mercher, 19 Rhagfyr 2018.
Cwrt Insole, Caerdydd  https://www.insolecourt.org/


Cynhadledd undydd gan Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a cefnogi gan yr National Conservation Service.




Archebion ar agor https://www.eventbrite.com/e/conservation-matters-in-wales-tickets-51876453870 


Cynhadledd undydd sy’n edrych ar y berthynas rhwng cadwraeth treftadaeth ddiriaethol a’r gwerthoedd anniriaethol cysylltiedig.

 
Yn draddodiadol, cysylltwyd cadwraeth â negeseuon fel ‘peidiwch â chyffwrdd’. Awydd i warchod sy’n gyfrifol am hyn, ond gall hefyd godi rhwystrau rhwng cymunedau a’u treftadaeth ddiwylliannol. Mae’r gynhadledd hon yn dathlu gwaith staff gofal casgliadau sy’n chwalu’r rhwystrau hyn ac yn ailgysylltu cymunedau â’u treftadaeth.

 
Croesewir papurau sy’n arddangos dull cadwraeth sy’n gyfuniad o warchod gwerthoedd diriaethol ac anniriaethol. Gall y rhain gynnwys:
  • ymgynghori cyhoeddus
  • cadw sgiliau
  • cyfranogiad cymunedol
  • cof
  • arferion cynaliadwy effeithiol
  • gwersi a ddysgwyd
  • gwerth ac arwyddocâd gwrthrych.
Gwahoddir cynigion am gyflwyniadau 20 munud, cyflwyniadau 5 munud, yn ogystal â gweithdai neu drafodaethau sy’n archwilio thema’r gynhadledd. Hashnod y gynhadledd fydd #consinwales, ac rydym yn croesawu awgrymiadau am gyflwyniadau y gellir eu rhannu’n rhithiol.
 
Bydd y gynhadledd yn gorffen gyda thrafodaeth agored. Rydym yn chwilio am gyfranwyr i lansio’r drafodaeth gydag argraffiadau neu astudiaethau achos ar gyfer cyflwyniad 2 funud (dim PowerPoint) sy’n edrych ar y cwestiwn yma:
“Sut mae’r rheiny sy’n gofalu am gasgliadau yn cyfrannu at amcanion ehangach eu sefydliad.”


Bydd cadwraethwyr, curaduron, rheolwyr casgliadau ac eraill yn mynychu’r gynhadledd ryngddisgyblaethol hon. Croesewir cynigion o Gymru a thu hwnt. Ethos y gynhadledd yw bod yn rhwydwaith gynhwysol, sy’n costio ychydig, felly er y gallwn gynnig llefydd am ddim i siaradwyr, yn anffodus nid yw’r gyllideb yn caniatáu i ni dalu costau teithio ac ati.


Os oes gennych ddiddordeb mewn siarad, gyrrwch grynodeb fer o’ch cynnig i William Tregaskes admin@cynnonvalleymuseum.wales erbyn 16 Tachwedd.


Cysylltu ag ymholiadau Christian Baars christian.baars@museumwales.ac.uk


By WelshDave [CC BY-SA 4.0  (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0)], from Wikimedia Commons

No comments:

Post a Comment

Covid-19: Rhannu Profiadau / Covid-19: Sharing Experiences

Materion Cadwraeth yng Nghymru, haf 2020  Covid-19: Rhannu Profiadau  Dydd Mercher 29ain o Orffennaf 14.00 – 15.30  Cyfarfod Zoom anf...