Galw am bapurau a chadw'r dyddiad
Cadwraeth Aflonyddol
Thema
cynhadledd flynyddol Cadwraeth yng Nghymru (#CMW2019) yw chwalu'r myth bod
cadwraethwyr yn cadw pethau fel y maent. Byddwn ni'n dathlu ac archwilio i sut
gall cadwraethwyr aflonyddu, herio neu newid sgyrsiau ac esboniadau
traddodiadol. Rydym yn chwilio am gynigion am sgyrsiau ar syniadau,
astudiaethau achos ac effaith cadwraeth aflonyddol. Gall eich cyflwyniad 20
munud drafod:
- Technegau anarferol neu radical a all newid sut caiff cadwraeth ei weld gan y cyhoedd neu weithwyr proffesiynolCadwraeth yn ymwneud â gwneud a thrwsio
- Gwneud penderfyniadau radical mewn cadwraeth
- Grymuso trwy gadwraeth – ffyrdd rydych yn gollwng gafael neu'n rhannu rheolaeth mewn proses gadwraeth
- Cadwraeth i newid – sut all project cadwraeth arwain at newid personol neu gymdeithasol
- Ailystyried beth yw blaenoriaethau ymarfer cadwraeth.
Lleoliad: Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW
Dyddiad: 18 Rhagfyr 2019
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau (uchafswm o 200 gair) i jenkinsc25@caerdydd.ac.uk:
8 Tachwedd 2019.
Ffi cofrestru: £10 i fyfyrwyr, £30 i bawb arall. Cofrestrwch ar Eventbrite
Yn ogystal â'r sgyrsiau, rydym yn ceisio trefnu taith o gwmpas stiwdio gadwraeth Archifau Morgannwg.
Bydd cadwraethwyr, curaduron, rheolwyr casgliadau a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â gofal casgliadau yn mynychu'r gynhadledd drawsddisgyblaethol hon. Croesawir cynigion gan bobl yng Nghymru a thu hwnt. Gobaith y gynhadledd yw bod yn rhwydwaith cynhwysol cost isel, a thra bod modd i ni gynnig lle am ddim i siaradwyr, nid oes gennym gyllideb i dalu am dreuliau siaradwyr.
Trefnir Cadwraeth yng Nghymru ar y cyd gan Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae aelodau Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn gymwys i ymgeisio am grant Hyfforddiant a Chynhadledd i fynychu'r gynhadledd hon: http://welshmuseumsfederation.org/cy/grantiau-hafan/grantiau-hyfforddi-ar-gynhadledd.html.