Dydd Mercher, 19 Rhagfyr 2018.
Cwrt Insole, Caerdydd https://www.insolecourt.org/
Archebion ar agor https://www.eventbrite.com/e/conservation-matters-in-wales-tickets-51876453870
Cynhadledd undydd sy’n edrych ar y berthynas rhwng cadwraeth treftadaeth ddiriaethol a’r gwerthoedd anniriaethol cysylltiedig.
- ymgynghori cyhoeddus
- cadw sgiliau
- cyfranogiad cymunedol
- cof
- arferion cynaliadwy effeithiol
- gwersi a ddysgwyd
- gwerth ac arwyddocâd gwrthrych.
Bydd y gynhadledd yn gorffen gyda thrafodaeth agored. Rydym yn chwilio am gyfranwyr i lansio’r drafodaeth gydag argraffiadau neu astudiaethau achos ar gyfer cyflwyniad 2 funud (dim PowerPoint) sy’n edrych ar y cwestiwn yma:
“Sut mae’r rheiny sy’n gofalu am gasgliadau yn cyfrannu at amcanion ehangach eu sefydliad.”
Bydd cadwraethwyr, curaduron, rheolwyr casgliadau ac eraill yn mynychu’r gynhadledd ryngddisgyblaethol hon. Croesewir cynigion o Gymru a thu hwnt. Ethos y gynhadledd yw bod yn rhwydwaith gynhwysol, sy’n costio ychydig, felly er y gallwn gynnig llefydd am ddim i siaradwyr, yn anffodus nid yw’r gyllideb yn caniatáu i ni dalu costau teithio ac ati.
Os oes gennych ddiddordeb mewn siarad, gyrrwch grynodeb fer o’ch cynnig i William Tregaskes admin@cynnonvalleymuseum.wales erbyn 16 Tachwedd.
Cysylltu ag ymholiadau Christian Baars christian.baars@museumwales.ac.uk
![]() |
By WelshDave [CC BY-SA 4.0 (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0)], from Wikimedia Commons |